Ok, so bach o disclaimer i ddechra… dyma’r tro cynta i fi flogio yn Gymraeg, felly jest i rybuddio chi, dwi’n licio rhegi. A di Cymraeg fi ddim yn berffaith, ddim o bell ffor. Dwi’n sgwennu fel dwi’n siarad felly Wenglish a bratiaith fydd hi fan hyn ol ddy we ma gynnai ofn. So, os di hynny ddim at y’ch dant, ffwciwch o ma, ddim chi di nghynulleidfa darged i.
So…
Ma cyfnod y sioe Nadolig wedi dod yndo, a ma’r creaduriaid bach yn ymarfer fflat out bob dydd heb ddim sôn am wersi na ymarfer corff, yn ôl be dwi’n i ddallt. (gwybodaeth gan blentyn chwech oed mind ew)
Ond ydi stori’r geni dal yn berthnasol?
I mean, nath y fenga ddod adra wsos dwytha yn mymblan rwbath am – y dyn mwya pwerus yn y byd. Wel, wel ma’n rhaid bod nhw di bod yn trafod Trump yn ysgol nes i feddwl. So dyma fi’n gofyn –
‘Pwy ydi’r dyn mwya pwerus yn y byd pwt?’
Dyma hi’n edrych arna i yn reit serious efo gwynab – ‘Oh come on Mam, don’t you know anything?’ Ac wedyn dyma hi’n deud –
‘Iesu ceidwad byd.’
Ym…be ffwc?!
‘Pwy?’ medda fi, dipyn bach mewn sioc.
‘Iesu ceidwad byd.’ medda hi eto gan rowlio’i llygaid arna i.
O’n i’m cweit yn gwbod be i ddeud wedyn.
I mean, ok, so ma na dipyn o Gymry’n Gristion, ond blydi hel, ydi hynny’n golygu fod rhaid i ni brainwashio nhw gyd efo’r sothach ‘out of touch’ ma? Dio jyst ddim yn relatable dim mwy nacdi?
Yn ôl y census dwetha yn 2011 honnodd 58% o Gymry `u bod nhw’n Gristion, ond o’dd hwnna bron i naw mlynedd yn ôl rŵan. Surely ma lot o’ nhw `di marw allan? (Sori Nain, ond da chi wedi yndo) Nes i ddim gweld tystiolaeth fod 58% o blant Caerdydd yn Gristion pan o’n i’n dysgu yma yn y ddinas.
Pan o’n i’n dysgu yn Glantaf o’dd rhaid adrodd gweddi’r arglwydd bob bora yn ogystal â diodda’r gwasanaethau wythnosol o’dd i gyd yn very Jesus heavy. O’dd y peth jest yn pishio fi off. Oherwydd, odd na census yn mynd allan reit ar ddechra’r flwyddyn da chi’n gweld, ag o’dd y ffurflenni yn dod `nôl atom ni, y tiwtoriaid dosbarth ac allan o ddosbarth o drideg, oddat ti fel arfar yn ca’l rhyw bump newu chwech teulu yn deud i fod nhw’n Gristion. Ma hwnna’n llai na 20%.
So pam bod `n plant ni gyd yn gorfod adrodd gweddi’r arglwydd bob dwy funud a chanu Iesu Tirion bob dydd cyn bwyta cinio? Mae o jest yn weird. A creepy. Ac mor hen ffasiwn ac amherthnasol i ran fwyaf ohonyn nhw tydi?

Ti yn ca’l mynnu fod by blentyn ddim yn cymryd rhan mewn unrhyw shit crefyddol yn ysgol. Ond pam ddylwn i dynnu kid fi allan i blydi ista yn y coridor yn lliwio fatha outcast pam dim hi di’r lleiafrif? Dio jest ddim yn neud sens.
Cofiwch chi, pan gafodd hi `i chastio fel Mair dwy flynadd yn ôl, I was all for it. (winc) Ond blwyddyn yma ma’i di ca’l `i demotio i fod yn Robin Goch. Robin ffycin Goch? Bugeiliaid – check. Dynion doeth – check. Angylion – Check. Ond dwi byth yn cofio i Robin Goch fod wrth erchwyn y preseb yn efengyl Mathew. Da chi?

So come on ysgolion Cymru!
Byddwch dipyn yn fwy creadigol, perthnasol a forward thinking fan `yn newch chi. Ma stori’r geni yn sooooo lame! Llai na 20%?? Oes rhaid deud mwy?
Plîs cliciwch, liciwch a rhannwch! Dwi’n dibynnu arnoch chi i gyrraedd cynulleidfa.
Dilynwch fi ar Instagram , Facebook neu Twitter?
Diolch x