Dolig yn fy mhen Vs Dolig go iawn…

Yn fy mhen…

Noswyl Nadolig – Y plant yn gwisgo `u onesies newydd ac yn swatio yn ein ceseila i ni gael gwylio ffilm nostalgic, Nadoligaidd fel teulu. Aaaaaaa.

Realiti…

Fydd y plant yn cwyno’u bod nhw’n rhy boeth yn y onesies a fydda i mewn mwd wedyn, achos oedden nhw o John Lewis ac yn ddrud a ddylian nhw fod yn ddiolchgar. Fydd neb yn gallu cytuno ar ba ffilm i wylio, a pam da ni yn dewis un fydd Dad jest efo’i drwyn yn `i iPhone drwy gydol yr holl beth eniwe.

Yn fy mhen…

Am saith o’r gloch, ar ôl i’r ffilm orffen fe rown ni mins pei a moronen allan i Sïon Corn a Rwdolff, cyn tycio’r angylion bach yn `u gwlâu a diffodd y golau… tawelwch.

Realiti…

Fydd y plant yn ffraeo am bwy sy’n mynd i roi’r mins pei lawr versus pwy sy’n mynd i roi’r foronen ar y plât a fyddai isho bangio’u penna nhw efo’i gilydd. Fyddan nhw DDIM yn mynd syth i gysgu achos fyddan nhw di ecseitio’n lan a fyddan nhw’n defnyddio BOB tric e.e. dwisho pi pi, dwisho dwr, ma na swn tu allan, dwisho tishw, bla, bla, bla.

Yn fy mhen…

Ar ôl iddyn nhw syrthio i gysgu’n syth bydd y gŵr a finna yn tywallt glasiad bach o Merlot ac yn nol `u presanta i’w lapio. Neith o neud un pentwr, a na i neud y llall a fydda ni di gorffen mewn dim amsar.

Realiti…

Neith o gymryd tua tair awr i lapio bob dim a da ni’n rhedeg allan o selotep hanner ffordd drwodd. Ma rhaid i’r gŵr redeg i co-op i nôl mwy. Fydd na dipyn o stress a strancio.

Yn fy mhen…

Fyddan ni’n snicio fyny efo’r hosanau a’u gosod nhw’n ddistaw wrth droed y gwely.

Realiti…

Ma’r ffycars bach yn deffro wrth i ni sleifio mewn a ma’n cymryd oes i ga’l nhw i setlo eto.

Yn fy mhen…

Gan fod y plant heb ddeffro, gawn ni fynd nol lawr i ga’l bach o teli, a chaws a bisgedi. Fyddan ni’n dau yn ein gwlâu erbyn unarddeg yn ca’l shag bach rhamantus.

Realiti…

Fydd hi tua 1 o’r gloch arna ni’n mynd i’r gwely a ma shag allan o’r cwestiwn achos da ni di blino gormod. Ma caws yn gallu rhoi gwynt ofnadwy i rhywun hefyd tydi? 

Yn fy mhen…

Diwrnod Nadolig – Fydd y plant yn deffro am saith yn llawn cyffro i agor eu presanta. Fyddan nhw mor hapus a diolchgar, ac wrth `u bodd efo bob dim.

Realiti…

Y plant yn deffro am bump. Ma’r hynaf isho be sy’n hosan y fenga a vice versa. Ma na ddagra achos bod Sïon Corn wedi anghofio hwn a’r llall oddi ar y rhestr. Y twat diog, di-drefn.

Yn fy mhen…

Dipyn o FaceTime-io’r teulu pell i ffwrdd wedyn i ddymuno Nadolig Llawen ac i ddiolch am `u rhoddion.

Realiti…

FaceTime efo Nanny a Bamps lle da ni’n treulio’r holl alwad yn syllu ar close up o nostril Nanny ac wedyn ma’r peth yn rhewi. Y plant yn gwrthod dod i ddweud diolch am `u anrhegion, sy’n gywilydd. Gwastraff blydi amser llwyr.

Yn fy mhen…

Dwi’n edrych yn hyfryd yn fy ffrog newydd. Dwi’n gleidio o gwmpas y gegin yn yfed Bucks Fizz efo gwallt a make up perffaith. Ma popeth ‘under control’.

Realiti…

Ma’r ffrog newydd dwi di brynu bach yn dynn achos nes i ddim trio hi on yn y siop. Dwi bach yn pissed ar ôl bod ar y Bucks Fizz ers unarddeg (oce deg) a ma gwallt fi’n frizz a make up fi’n llifo off achos dwi’n chwysu chwartia yn y ffycin gegin. Dwi bach yn stressed a’r unig beth sy ‘under control’ ydi bol fi yn y Spanx.

Yn fy mhen…

Y teulu i gyd yn cyrraedd a phawb yn llawn hwyl a sbri. Mae’r cinio yn troi allan yn amazing efo tatw rhost crispi, twrci jwsi a grefi blasus. Hwre!

Realiti…

Y teulu yn cyrraedd. Ma Nain yn flin achos bod hi mewn jîns ac yn deud i bod hi – ‘Ddim di ca’l y memo yn deud i mi wisgo ffrog!’ Yr arddegwyr (fy nithoedd) yn swta. Ma nhw’n ista mewn cornel yn anwybyddu pawb ac yn siarad efo’u ffrindia ar SnapChat. Ma’r cinio’n shit. Dwi di llosgi’r tatws, ma’r twrci yn sych, a ma rhaid fi sifio’r grefi. Ych.

Yn fy mhen…

Ar ôl cinio ma pawb yn hapus a dedwydd di cwtsio ar y soffa’n gwylio ffilm da. Wrth iddi nosi ma pawb yn dod ‘nôl at `i gilydd wrth y bwrdd i chwara gem gymdeithasol a hwyl. Wel am ddiwrnod i’r brenin.

Realiti…

Ar ôl cinio sa ffyc ôl werth i weld ar y teli. Wrth iddi nosi da ni’n ca’l un gêm o PieFace wrth y bwrdd a ma’r plant yn ffraeo dros bwy sy’n mynd i splatio Nain. Pawb di blino gormod. A di ca’l llond bol mewn mwy nag un ffordd. Methu aros iddyn nhw gyd adal. Ac i’r plant fynd i gwely. Dwisho mynd i’r gwely hefyd. I freuddwydio am fynd i ffwrdd i rwla poeth blwyddyn nesa.

A dyna ni. Y Nadolig delfrydol versus y realiti. Fydd diwrnod Dolig ni rhywle yn y canol ma’n siŵr. (winc)

Be amdanoch chi?

Plîs cliciwch, liciwch a rhannwch! Dwi’n dibynnu arnoch chi i gyrraedd cynulleidfa. Diolch x

Da chi’n dilyn fi ar Instagram ,  Facebook  neu Twitter?

 

 

Leave a Reply

2 thoughts on “Dolig yn fy mhen Vs Dolig go iawn…